DilysWILLIAMS13 Tachwedd, 2023. Yn dawel yng Nghartref Preswyl Gwynfa, Caernarfon yn 94 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar David (Dei), a mam gariadus Ieuan, Carys ac Alun, mam-yng-nghyfraith dyner Eirina a Mike, nain falch Caryl, Samantha a Carwyn a hen-nain hoff i Cain, Gruff, Jack, Ben, Greta a Ned. Angladd fore Iau, 30 Tachwedd, 2023. Gwasanaeth preifat i'r teulu'n unig yn unol â'i dymuniad, yn Amlosgfa Bangor, am 10.00 o'r gloch. Dim blodau ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Dilys tuag at Dementia UK. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates